OU_Wales_Logo_Dark_Blue
Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Y Brifysgol Agored yw’r darparwr addysg uwch i israddedigion rhan amser mwyaf yng Nghymru. Mae’n arweinydd byd gan gynnig cyfleoedd dysgu o bell hyblyg ac arloesol ar lefel addysg uwch. Mae dros 7000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, gyda dewis eang o gymwysterau mewn ystod eang o bynciau ar gael. Fel rhan o’r brifysgol fwyaf yn y DU, gallwn ddarparu addysg o safon byd-eang, gan eich cynorthwyo i gwrdd a’ch amcanion proffesiynol a phersonol. Darllen mwy

PSL logos

Practice Solutions Ltd

Yn Practice Solutions, rydym yn cefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd cyhoeddus, trydydd a phreifat yng Nghymru, a rhannau eraill o’r DU, i arwain, rheoli a chyflwyno gwasanaethau cynaliadwy a thrawsnewid yn hyderus i sicrhau llesiant pobl mewn cymunedau. Rydym yn cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid ar brosiectau tymor byr a thymor hir i ddylunio a darparu arferion newydd ac arloesol, adolygu’r broses o ddarparu gwasanaethau, a mwy. Darllen mwy