ADSS Cymru yw'r sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn cynrychioli llais cyfunol, awdurdodol Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phenaethiaid Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant ar ystod o faterion cenedlaethol a rhanbarthol polisi, ymarfer ac adnoddau gofal cymdeithasol. 

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Gofal Cymdeithasol Cymru, cydweithwyr yn y GIG, a phartneriaid yn y trydydd sector ac annibynnol tuag at sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru drwy lywio a dylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion yn y sector gofal cymdeithasol. 

Rydym yn sefydliad aelodaeth yn gyntaf oll. Mae ein haelodau yn cynnwys cyfarwyddwyr statudol ac uwch reolwyr gwasanaethau cymdeithasol o bob un o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru. Ar hyn o bryd mae ein haelodaeth cyswllt yn ymestyn i gyn-gyfarwyddwyr neu benaethiaid gwasanaeth. 

Cynhyrchir y gynhadledd gan Uned Fusnes ADSS Cymru, sy'n cael ei chefnogi gan Practice Solutions.