Ymunwch â'r cyfle arddangos a rhwydweithio mwyaf blaenllaw
i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Amseroedd Fel y Rhain: Pobl, Balchder a Phwrpas Mewn Gofal Cymdeithasol

Bydd Cynhadledd Gofal Cymdeithasol Genedlaethol 2026 #CGGC26 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher 21 – dydd Iau 22 Hydref, gan nodi'r tro cyntaf i'r gynhadledd ddychwelyd i'r brifddinas ers 2024.

Yn dilyn egni a mewnwelediad anhygoel cynhadledd y llynedd yn Llandudno, rydym yn gyffrous i ddod â'r sector at ei gilydd unwaith eto am ddau ddiwrnod o ysbrydoliaeth, dysgu a chysylltiad.

Mae tocynnau bellach ar werth yn TicketTailor.

Mae gostyngiadau ar gael i aelodau ADSS, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector, aelodau Rhwydwaith NSCC a mwy. Ar gyfer unrhyw ymholiadau ac i wirio eich cymhwysedd, anfonwch e-bost at events@adss.cymru


Dathlu creadigrwydd a chysylltiad

Bydd y noson boblogaidd Cysylltu yn dychwelyd, gan gynnig cyfle i ddod at ei gilydd mewn lleoliad mwy anffurfiol i ddathlu llawenydd creadigrwydd a mynegiant trwy lens gofal cymdeithasol.

Bydd rhagor o fanylion y rhaglen, siaradwyr a chyhoeddiadau yn dilyn yn ystod y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, cadwch y dyddiad ac ymunwch â ni yng Nghaerdydd am #CGGC26 ar ddydd Mercher 21 – dydd Iau 22 Hydref.


Uchafbwyntiau'r llynedd