Mae’n bleser gan ADSS Cymru gyhoeddi y bydd Llesiant Delta a CGI yn Noddwr Cynhadledd CGGC23 ar y cyd.

Technoleg mewn gofal cymdeithasol yw un o themâu CGGC23 eleni, ac mae nawdd Llesiant Delta a CGI yn cefnogi’r rhaglen fel enghraifft o waith arloesol yn y maes hwn. Dysgwch fwy am eu partneriaeth isod. 
 
Gair gan Noddwyr Cynhadledd CGGC23, CGI a Llesiant Delta 
‘Mae Llesiant Delta a CGI yn partneru i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru trwy drawsnewid digidol.

Dyfyniad gan Sam MD Delta 

Mae Andy neu Donna yn dyfynnu CGI 

Mae ein gweledigaeth ar y cyd o gefnogi pobl i fyw’n annibynnol ac i alluogi unigolion i helpu eu hunain, yn ganolog i’n partneriaeth. Rydym yn wirioneddol ymroddedig i gefnogi gwell canlyniadau i’n defnyddwyr gwasanaeth sef y bobl yn ein cymunedau sydd angen ein cymorth fwyaf.

Dywedodd Samantha Watkins, Cyfarwyddwr Rheoli Llesiant Delta:

“Rydym yn hynod falch ac wedi ein cyffroi o gael bod yn gyd-noddwr y Gynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol (NSCC23) gyda’n partner trawsnewid digidol, CGI. 

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy’n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw’n fwy annibynnol. 

Ers sefydlu’r cwmni yn 2018, rydym wedi ehangu ein gwasanaethau i ddarparu ystod o atebion arloesol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan drawsnewid y ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ledled gorllewin Cymru trwy weithredu model newydd o hunangymorth a gofalrhagweithiol. 

Rydym yn angerddol tu hwnt ynghylch beth rydym yn ei wneud, gan ddarparu un pwynt mynediad ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, a chefnogi cleifion sy’n gadael lleoliadau acíwt yn ogystal ag yn y gymuned, gyda’n ‘Byddin Las’ yn yr ysbyty a’n gwasanaeth ymateb 24/7, y cyntaf o’i fath i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Ymyrraeth gynnar ac atal a’r defnydd o dechnoleg ddigidol yw prif thema’r gynhadledd eleni, ac ni allai fod yn fwy perthnasol. Bydd ein partneriaeth â CGI yn ein helpu i ddarparu gofal a chymorth mwy clyfar, personol, gan ddatblygu ymagwedd system gyfan at y continwwm gofal, a sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran yr hyn sy’n gallu cael ei wneud nawr ac yn y dyfodol.” 

Dywedodd Justene Ewing, Is-lywydd CGI:

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at noddi cynhadledd NSCC23 ochr yn ochr â’n partner, Llesiant Delta. Bydd yn gyfle gwych i arddangos cwmpas ein partneriaeth flaengar i gefnogi’r gwaith pontio o wasanaethau iechyd a gofal iechyd a gofal analog i ddigidol yn y cartref, a helpu i sefydlu Cymru fel y cynllun braenaru cenedlaethol mewn gwasanaethau iechyd a gofal yn y cartref gwirioneddol integredig.

Hefyd, yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at rannu gweledigaeth CGI ar gyfer iechyd a gofal wedi’i hwyluso gan ddata a phobl, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau’r system gyfan ac sy’n gallu darparu’r lefel gywir o ofal i bawb, ar yr adeg iawn a chan y bobl iawn.

Yn CGI, rydym yn cyfuno ein harbenigedd mewn diwydiant byd-eang a’n datrysiadau arloesol â’n gwybodaeth leol am yr heriau gwirioneddol sy’n wynebu sefydliadau iechyd a gofal, ynghyd â’n huchelgais cynhenid i gydweithio â’n cleientiaid i ddod o hyd i’r atebion cywir i’w problemau.”  


Cliciwch yma i gael gwybod mwy am gynlluniau Llesiant Delta a CGI ar gyfer trawsnewid digidol yng Ngorllewin Cymru.

Mae tocynnau CGGC23 yn gwerthu’n gyflym! 
Os ydych chi’n bwriadu mynychu cynhadledd eleni, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n prynu’ch tocynnau’n fuan i sicrhau nad ydych chi’n colli allan. Mae’n debygol mai hwn fydd ein digwyddiad cyntaf erioed i werthu allan.

 
Bydd cyhoeddiadau rhaglen yn dilyn yn yr wythnosau nesaf. 
 
Ydych chi’n adnabod darpar arweinydd? 
Eleni, rydym yn cynnig y cyfle i uwch-arweinwyr enwebu pobl y maent yn credu sy’n ddarpar arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol i elwa ar bris tocyn gostyngol. Anfonwch e-bost i contact@adss.cymru am ragor o fanylion. 
 
Wedi’i gynnal cynhelir gan ADSS Cymru gyda chefnogaeth gan dîm Practice Solutions, y Gynhadledd Gofal Cymdeithasol Genedlaethol yw’r cyfle mwyaf blaenllaw i arddangos a rhwydweithio ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.