Cyfleoedd noddi'r gynhadledd
Cyfleoedd partner digwyddiadau a chydweithrediadau posibl
Mae ADSS Cymru yn croesawu gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau allanol. Rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd i gynhyrchu incwm drwy nawdd. I gyflenwyr gwasanaethau a chynhyrchion i'r sector pwysig hwn, mae Cynhadledd Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol 2023 yn cynnig cyfle eithriadol i gysylltu â chynrychiolwyr a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'ch sefydliad.
Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan, a nodir isod:
Cyfleoedd nawdd
Mae ADSS Cymru wedi creu cyfres o becynnau nawdd. Mae pob un o'r pecynnau hyn yn cynnig cyfleoedd marchnata sylweddol i'r noddwr, megis nawdd digwyddiadau penodol, hysbysebu mewn llenyddiaeth gynadledda a nwyddau hyrwyddo. Bydd yr ystod hon o opsiynau yn rhoi presenoldeb proffil uchel i chi yn y digwyddiad mawreddog hwn. Fodd bynnag, efallai y bydd dulliau marchnata eraill yr ydych wedi'u defnyddio mewn mannau eraill yr hoffech eu trafod. Rydyn ni'n hapus i drafod eich awgrymiadau.*
Mae pecyn Noddwr ac Arddangoswr manwl ar gael, cysylltwch â Louise Sweeney ar louise.sweeney@adss.cymru i gael mwy o wybodaeth neu i drafod pecyn nawdd addas ar gyfer eich sefydliad.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.
* Nid yw derbyn nawdd yn dangos cefnogaeth i gynnyrch neu achos y noddwyr.