**COFRESTRU BELLACH AR AGOR**
Bydd CGGC20 yn digwydd AR LEIN eleni
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Cynhadledd Gofal Cymdeithasol Genedlaethol Cymru eleni yn mynd yn ei blaen ar-lein
Dyma ein rhith-gynhadledd gyntaf erioed, a bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gydnabod ymdrechion rhagorol gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal sydd wedi parhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol trwy gydol y pandemig covid; ac yn edrych ymlaen at ail-sefydlogi’r sector, bwrw ymlaen ag arferion newydd positif a chydweithio i adeiladu gwasanaethau gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Er na allwn ddod â’n cydweithwyr ynghyd yn bersonol, gobeithiwn y bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn rhoi cyfle i lawer a fyddai fel arall wedi methu â mynychu, i gymryd rhan.
Bydd cynhadledd eleni yn rhad ac am ddim i bawb ac mae’n agored i bob gweithiwr gofal proffesiynol nyg Nghymru, ac edrychwn ymlaen at ichi ymuno â ni.
Gallwch gofrestru i fynyrchu’r cynhadledd nawr trwy ein tudalen archebu: https://nscc.cymru/booking/
Ewch i’n TUDALEN RHAGLEN i weld y rhaglen amlinellol nawr.